“Mae dibynadwyaeth y cyhoedd ar geir ar ei lefel uchaf erioed, ac mae hynny’n frawychus.”
Dyma sylw Prif Weithredwr yr RAC – y Clwb Ceir Modur Brenhinol gynt – David Bizley, yn sgil cyhoeddiad eu hadroddiad blynyddol.
Er bod dibynadwyaeth ar geir wedi bod yn disgyn yn raddol ers 2012, mae ystadegau diweddaraf yr RAC yn dangos bod obsesiwn y cyhoedd â’r car yn gryfach nag erioed.
Mae’n debyg bod traean o fodurwyr yn fwy dibynnol ar eu ceir nag oedden nhw flwyddyn yn ôl, ac mae chwarter o rheiny yn beio ansawdd trafnidiaeth gyhoeddus.
“Dydy llawer o bobol ddim yn credu bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn gwell na char – yn enwedig pobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig,” meddai David Bizley.
“Mae angen rhagor o fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, fel bod gyrwyr yn medru dewis peidio eistedd mewn traffig a chyfrannu at ansawdd aer gwael.”
Ystadegau
- Mae 33% o fodurwyr yn fwy dibynnol ar eu ceir nag oedden nhw 12 mis yn ôl
- Mae 24% o bobol yn beio trafnidiaeth gyhoeddus am eu dibynadwyaeth
- Yn 2017, roedd 27% yn teimlo eu bod yn fwy dibynnol ar eu ceir o gymharu â’r flwyddyn flaenorol
- Mae 34% yn defnyddio ceir yn fwy am eu bod eisiau gweld aelodau teulu