Fe fydd pennaeth y gwasanaeth carchar yn gadael ei swydd ddiwedd Mawrth y flwyddyn nesaf, wedi i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ofyn iddo gamu o’r neilltu.

Fe ddaeth cyhoeddiad y bydd Michael Spurr yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weithredwr Gwasanaeth Carchar a Phrawf ei Mawrhydi yn y gwanwyn, a hynny wedi cyfnod o straeon negyddol ac adroddiadau gwael am sefydliadau yng Nghymru a Lloegr.

Mae wedi treulio 35 mlynedd yn gweithio yn y maes, ac wedi bod yn ei swydd bresennol am naw.

Ond mae’r sylw diweddar i’r defnydd o gyffuriau mewn carchardai, yn ogystal â thrais a diffyg disgyblaeth, amodau byw gwael a chamymddwyn, wedi gwneud ei sefyllfa yn un anodd iawn.

Fe gerddodd miloedd o swyddogion carchar allan ar streic yr wythnos ddiwethaf, mewn protest am y trais y maen nhw’n gorfod ei wynebu yn eu gwaith bob dydd.

Fe fydd y broses o ddewis olynydd i Michael Spurr yn dechrau ym mis Hydref.