Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi galw ar arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd i ganolbwyntio ar sicrhau cytundeb ynghylch Brexit.

Mewn cinio mawreddog yn Salzburg yn Awstria neithiwr (dydd Llun, Medi 19), fe ddywedodd mai’r cynllun Chequers yw’r unig gynllun credadwy – ar wahân i ddim cytundeb – sydd ar y bwrdd.

Daw hyn ar ôl i Lywydd yr Undeb Ewropeaidd, Donald Tusk, ddweud bod angen “ailweithio” rhai elfennau o’r cynllun hwnnw.

Bydd 27 o arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn cyfarfod heddiw heb y Deyrnas Unedig er mwyn trafod Brexit a’r trafodaethau yn ei gylch.

“Dim ail refferendwm”

Er bod rhai wedi galw ar Theresa May i gynnal ail refferendwm ar Brexit, fe ddefnyddiodd hi ran o’i haraith neithiwr i gadarnhau na fydd y Deyrnas Unedig yn ufuddhau i’r galwadau hynny.

“Dw i am ei gwneud hi’n gwbwl glir, fydd y llywodraeth hon ddim yn derbyn ail refferendwm,” meddai.

“Fe wnaeth pobol Prydain bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ac fe fyddwn ni’n gadael ar Fawrth 29, 2019.