Mae un o bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi wedi rhybuddio y gallai hi gymryd blynyddoedd i wireddu cynlluniau Brexit Theresa May.

Mae’r Prif Weinidog yn mynnu mai ‘Cynllun Chequers’ yw’r opsiwn gorau, ond mae is-Bwyllgor Materion Tramor yr Undeb Ewropeaidd wedi herio hynny.

Prif destun eu gofid yw’r ‘trefniant tollau cynorthwyedig’ (FCA), a fyddai’n caniatáu i’r Deyrnas Unedig gadw’i pherthynas masnachu ag Ewrop, yn ogystal â tharo bargeinion â gweddill y byd.

Byddai’n rhaid cyflwyno system dariff newydd er mwyn gwneudnhyn, ac mae’r pwyllgor yn dadlau y byddai hynny’n cymryd “sawl blwyddyn i’w ddatblygu”.  

Amser yn brin

“Rhaid i’r Llywodraeth fynd ati ar frys i ddarparu atebion i gwestiynau ynghylch yr FCA,” meddai Cadeirydd y pwyllgor, y Farwnes Sandip Verma.

“Gyda dim ond chwe mis i fynd nes Brexit, mae’r cyfnod sydd gennym i sefydlu cytundeb tollau – un y gallwn ni i gyd gytuno arno – yn byrhau.”