Mae cynllunydd nwyddau a defnyddiau blodeuog poblogaidd, wedi cau ei busnesau ar-lein a’i siopau heddiw, gan roi degau o weithwyr ar y clwt.

Fe gafodd gweithwyr yn siopau Orla Kiely wybod heddiw fod eu bos 55 oed wedi rhoi’r gorau i fasnachu, a bod y busnes £8m oedd â’i bencadlys yn Kildare yn Iwerddon, wedi’i ddiddymu.

Mae cynlluniau Orla Kiely ar gyfer offer y cartref a bagiau siopa wedi bod yn boblogaidd iawn ers sefydlu’r label yn 1995. Mae enwogion hefyd wedi gwisgo ei dillad, yn cynnwys Sarah Jessica Parker a Kate Middleton.

Mae tair o siopau’r cwmi yn Llundain, Kildare ac Efrog Newydd, wedi cau heddiw, wrth i’r cwmni gau.