Mae teulu plismon a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn ystod ymosodiad brawychol yn ceisio atebion am fethiannau yn systemau diogelwch San Steffan.

Cafodd y Cwnstabl Keith Palmer ei ladd gan Khalid Masood, cyn i’r ymosodwr fynd yn ei flaen i daro pedwar o bobol â char a’u lladd ar bont Westminster.

Clywodd y cwest yn yr Old Bailey fod swyddogion oedd i fod mewn man sefydlog ger y gatiau lle bu farw Keith Palmer, wedi cael eu symud fel eu bod yn crwydro i fannau gwahanol.

Yn ôl cyfreithwyr ar ran ei deulu, roedd plismyn oedd yn gwarchod yr ardal mewn mwy o berygl nag o’r blaen o ganlyniad i’r newid yn y drefn.

Doedd neb wedi bod wrth y gatiau am hyd at awr cyn yr ymosodiad ac fe ddywedodd plismon wrth y gwrandawiad y byddai wedi ymateb i sŵn y cerbyd yn taro pobol pe bai e wedi bod yn yr ardal arferol ar y pryd.

Y cyfan y mae’r teulu am ei wybod, meddai’r cyfreithiwr, yw a fyddai cadw at y drefn ddiogelwch arferol wedi osgoi ei farwolaeth.

Fydd yna ddim arbenigwyr ar arfau yn rhoi tystiolaeth i’r cwestau i farwolaethau Keith Palmer, Kurt Cochran, Leslie Rhodes, Aysha Frade ac Andreea Cristea, ac mae’r gwrandawiad yn parhau.