Mae dynes wedi marw wedi i’r garafan yr oedd hi’n aros ynddi gael ei chwythu oddi ar glogwyn yn Iwerddon yng nghanol Storm Ali.

Fe gafodd y garafan ei chwythu i lawr i draeth Claddaghduff ger Clifden yn Galway fore heddiw (dydd Mercher, Medi 19).

Mae heddlu Iwerddon yn dweud fod corff menyw yn ei 50au wedi’i ganfod wedi iddyn nhw chwilio’r traeth.

Mae gwyntoedd rhwng 65mya a 75mya Storm Ali wedi taro Iwerddon, Gogledd Iwerddon, rhannau o’r Alban, gogledd-ddwyrain Lloegr a gogledd-orllewin Lloegr heddiw.