Mae Tesco wedi lansio cwmni newydd, Jack’s, a’r siopau newydd yn agor am y tro cyntaf fory (dydd Iau, Medi 20).

Bydd dwy siop yn agor, y naill yn Chatteris yn Swydd Gaergrawnt a’r llall yn Immingham yn Swydd Lincoln. ac mae disgwyl i hyd at 15 o siopau agor dros y flwyddyn nesaf.

Bwriad y cwmni newydd yw cystadlu â’r archfarchnadoedd Almaenig, Aldi a Lidl.

Mae gan Tesco siâr o 27.4% o’r farchnad archfarchnadoedd, tra bod gan Aldi a Lidl siâr o 13.1%.