Mae’r cyflwynydd teledu ac awdur comedi, Denis Norden wedi marw. Roedd yn 96 oed.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith yn cyflwyno’r rhaglen It’ll Be Alright on the Night, oedd yn tynnu sylw at gamgymeriadau doniol ar y sgrîn.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu iddo dreulio sawl noson yn yr ysbyty yng ngogledd Llundain.

Mae’n gadael mab a merch, Nick a Maggie, wyrion a gor-wyrion.

Gyrfa

Wedi’i eni yn Hackney yn Llundain yn 1922, cafodd ei hyfforddi i reoli sinemâu cynnar cyn troi ei sylw at wasanaethau’r Awyrlu yn yr Ail Ryfel Byd.

Yno y dechreuodd e ysgrifennu adloniant er mwyn diddanu’r milwyr.

Cyd-ysgrifennodd e’r rhaglen radio Take It From Here gyda Frank Muir yn 1947, ac mi gafodd ei darlledu gan y BBC rhwng 1948 a 1960.

Daeth yn adnabyddus wedyn drwy’r rhaglen sgetsys Here’s Television yn 1951, rhaglen oedd yn serennu Sid James ac Ian Carmichael.

Ar ôl i’w bartneriaeth awdura â Frank Muir ddod i ben yn 1964, aeth Denis Norden yn ei flaen i ysgrifennu deunydd ar gyfer The Frost Report, rhaglen a gafodd ei chyflwyno gan y diweddar Syr David Frost.

Wrth i’w yrfa fynd o nerth i nerth yn y 1970au, fe gyflwynodd e Looks Familiar cyn i It’ll Be Alright on the Night gael ei darlledu am y tro cyntaf yn 1977.

Arweiniodd y gyfres hon at raglen arall, Denis Norden’s Laughter File yn ddiweddarach.

Penderfynodd ymddeol o’r byd darlledu yn 2006.