Rhaid rheoleiddio ‘bitcoin’ a mathau eraill o arian digidol gan eu bod yn bodoli o fewn rhyw “orllewin gwyllt”, yn ôl Aelodau Seneddol.

Yn ei adroddiad, mae Pwyllgor y Trysorlys yn rhybuddio bod diffyg y rheolaeth yn peri risg o “dwyll ariannol” a “hacio” i fuddsoddwyr.

Ac mae’r Aelodau Seneddol yn rhybuddio nad yw buddsoddwyr yn ymwybodol o hynny, ac y dylen nhw wybod y gallan nhw “golli eu harian i gyd”.

“Mae’r bitcoin, a mathau eraill o arian digidol, yn bodoli o fewn rhyw orllewin gwyllt,” meddai Cadeirydd Pwyllgor y Trysorlys, Nicky Morgan.

“Dydi’r farchnad yma ddim yn cael ei rheoleiddio, ac mae’n peri sawl risg i fuddsoddwyr… Credwn yn gryf bod yn rhaid ei rheoleiddio.”

Beth yw’r bitcoin?

Mae’r ‘bitcoin’ ac ‘arian digidol’ yn anarferol gan nad ydyn nhw’n cael eu bathu fel darnau eraill mewn bathdy, a does dim banc canolog sy’n gyfrifol amdanyn nhw.

Maen nhw’n bodoli ar ffurf ddigidol yn unig ac yn cael eu ‘cloddio’ trwy gyfres o algorithmau cymhleth a chudd ar gyfrifiadur. Mae un bitcoin yn gyfwerth â miloedd o bunnoedd.