Rhaid ymchwilio ymhellach i effeithiau cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl, er mwyn penderfynu a ydyw’n  dda neu’n ddrwg i ni.

Dyna un o gasgliadau adroddiad newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Medi 19) gan y Ganolfan tros Iechyd Meddwl.

Daw’r adroddiad yn sgil ymchwil gan Ofcom a Swyddfa’r Comisiynydd Iechyd sy’n dangos bod 45% o oedolion wedi profi rhyw fath o niwed ar-lein.

“Mae tystiolaeth ynglŷn ag effaith cyfryngau cymdeithasol ar ein hiechyd meddwl, yn dod i’r fei yn ara’ deg,” meddai papur y Ganolfan tros Iechyd Meddwl.

“Ac er bod yna fwy o dystiolaeth ynglŷn â risgiau a pheryglon posib, mae tystiolaeth bositif hefyd wedi dod i’r amlwg yn gysylltiedig ag effaith y cyfryngau cymdeithasol.”

Y da a’r drwg

Mae’r papur yn amlinellu pryderon am seiber-fwlio, a gallu dyn i fynd yn gaeth i wefannau fel Facebook ac Instagram.

Er hynny, mae’r sefydliad hefyd yn tynnu sylw at rôl cyfryngau cymdeithasol wrth “greu a chynnal cysylltiadau rhwng pobol” a lleddfu unigrwydd.