Dylai rhieni gael eu gwahardd rhag cael gwybod rhyw eu babi ar ddechrau’r cyfnod beichiogrwydd, meddai’r Blaid Lafur.
Daw’r galw yn sgil pryderon y gallai rhieni erthylu ffetws gan nad ydyn nhw’n hapus â’i ryw.
Prawf gwaed yw’r ‘prawf cynenedigol anfewnwthiol (NIPT) sy’n medru adnabod cyflyrau genetig, ond sydd hefyd yn medru adnabod rhyw, a bellach mae ymdrechion ar droed i’w gyflwyno yn Lloegr.
Er nad yw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS) yn caniatáu rhieni i ddarganfod rhyw eu babis, mae modd talu am brawf preifat er mwyn gwneud hynny, a dyna sydd o bryder i’r Blaid Lafur.
“Dylai bod sgrinio NIPT yn cael ei ddefnyddio i chwilio am gyflyrau difrifol, gan gynnwys syndrom Down’s, nid am resymau eraill,” meddai’r Aelod Seneddol Llafur, Naz Shah, wrth y BBC.
“Rhaid i’r Llywodraeth ymchwilio i’r gweithredu ecsbloetiol yma, ac mi ddylen nhw gyflwyno cyfyngiadau priodol.”
Mae llefarydd ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi dweud y byddan nhw’n “parhau i ymchwilio” i’r mater.
NIPT a Chymru
Mae profion NIPT eisoes ar gael ledled Cymru gyfan ochr yn ochr â darpariaethau sgrinio eraill.
Cafodd ei chyflwyno ym mis Ebrill eleni, a Chymru oedd y wlad gynta yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno’r ddarpariaeth i bob un o’i dinasyddion.