Byddai economi’r Deyrnas Unedig yn wynebu “costau sylweddol” petai’n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yn ôl y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF).

Yn eu hasesiad diweddaraf, mae’r IMF wedi dweud bod gwledydd Prydain yn debygol o wynebu “costau economaidd” pa bynnag ffordd y maen nhw’n gadael.

Ond mae gadael yr UE mewn modd di-drefn yn debygol o arwain at “sefyllfa llawer gwaeth” meddai’r corff rhyngwladol.

Ac er gallai cytundebau masnach newydd “liniaru’r golled i economi’r Deyrnas Unedig”, medden nhw, “dydy hynny ddim yn debygol o fod yn ddigon”.

Paratoi

Mae’r asesiad, a gafodd ei lansio gan reolwr gyfarwyddwr yr IMF, Christine Lagarde ynghyd a’r Canghellor Philip Hammond, hefyd yn rhybuddio nad yw’r Deyrnas Unedig yn debygol o fedru paratoi yn ddigonol ar gyfer Brexit “hyd yn oed â’r ymdrech cryfaf”.

“Heb gyfnod pontio, mae aflonyddwch difrifol yn risg,” meddai’r IMF. “Rhaid i’r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig gydweithio ar brif faterion.”