Mae Katie Hopkins wedi cymryd camau er mwyn osgoi mynd yn fethdal, yn ôl honiadau ar wefan gymdeithasol Twitter.

Daw’r honiadau gan yr awdur Jack Monroe, sydd newydd ennill achos enllib yn erbyn y newyddiadurwraig ddadleuol sydd wedi dod dan y lach yn ddiweddar am ei sylwadau am addysg Gymraeg orfodol.

Yn ei neges ar Twitter, dywedodd Jack Monroe, “Gallaf gadarnhau heddiw, yn dilyn achos enllib hanesyddol, fod Katie Hopkins wedi dewis trefniadau gwirfoddol unigol er mwyn osgoi mynd yn fethdal.

“Ro’n i’n gwybod am sbel ond yn methu dweud unrhyw beth am resymau cyfreithiol. Doedd amddiffynnydd gormesol rhyddid barn ddim eisiau i bobol wybod, yn eironig…”

Cefndir

Roedd Jack Monroe wedi ennill £24,000 o iawndal y llynedd ar ôl i Katie Hopkins wneud cyhuddiadau enllibus am yr awdur a blogiwr bwyd.

Roedd Katie Hopkins wedi awgrymu bod Jack Monroe wedi cefnogi achosi dinistr i gofeb ryfel yn ystod protest yn Whitehall.

Roedd rhaid i Katie Hopkins dalu £107,000 o fewn 28 diwrnod yn dilyn y dyfarniad yn ei herbyn.

Y ffrae wreiddiol

Fe ddigwyddodd y ffrae wreiddiol ar Twitter ym mis Mai 2015, wrth i Katie Hopkins gamgymryd Jack Monroe am Laurie Penny, colofnydd i’r New Statesman, oedd wedi lladd ar y Ceidwadwyr ar y wefan gymdeithasol tra bod protest yn mynd rhagddi.

Dywedodd Laurie Penny nad oedd ganddi “broblem” â fandaliaeth fel dull o brotestio.

Ond wrth gamgymryd y naill am y llall, anfonodd Katie Hopkins neges at Jack Monroe yn gofyn, “Wedi sgriblo ar unrhyw gofebau’n ddiweddar? Wedi fandaleiddio’r cof am y rhai a frwydrodd am dy ryddid. Rhagor o fedalau gan dy fam-gu?”

Wrth ymateb, mynnodd Jack Monroe fod Katie Hopkins yn rhoi £5,000 tuag at elusen er mwyn osgoi achos enllib yn ei herbyn.

Ond parhau i ddilorni Jack Monroe wnaeth Katie Hopkins ar ôl dileu’r neges wreiddiol, a gofynnodd Jack Monroe am ymddiheuriad.

Yn dilyn yr ail neges, roedd cyfreithwyr Jack Monroe yn dadlau bod Katie Hopkins wedi awgrymu bod Jack Monroe yn cefnogi fandaliaeth.