Mae’r heddlu wedi arestio un dyn ac yn chwilio am bump arall yn dilyn ymosodiad ar warden traffig yng nghanolbarth Lloegr.

Cafodd y dyn ei lusgo o’i foped, ei sathru a’i gicio mewn ymosodiad “ciaidd” a’i gludo i’r ysbyty, meddai Heddlu West Midlands.

Cafodd y moped ei ddwyn wedi’r ymosodiad.

Mae dyn 20 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o ladrata, ac mae’r heddlu wedi cyhoeddi lluniau’r pump arall maen nhw’n chwilio amdanyn nhw yn dilyn y digwyddiad yn Birmingham nos Wener.

Mae tri o’r dynion wedi’u hamau o ymosod, a’r ddau arall yn cael eu hystyried yn dystion.