Mae cyn-filwr Prydeinig wedi’i garcharu yn Nhwrci am ymladd yn erbyn Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’.

Mae Joe Robinson, 25, wedi’i ddedfrydu i saith mlynedd a hanner dan glo.

Mewn datganiad, dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod yn barod i gynnig cymorth i’r dyn o Swydd Gaerhirfryn.