Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan, David Gauke yn ystyried newid y gyfraith er mwyn cyflwyno ysgariad ‘heb fai’, gan ddod â chyfraith “hynafol” i ben.

O dan y ddeddfwriaeth newydd, fydd dim angen i’r naill bartner brofi mai’r llall sydd ar fai am berthynas yn torri i lawr er mwyn cael ysgariad.

Yn ôl y cynlluniau newydd, fydd gan y naill bartner ddim hawl i wrthwynebu cais am ysgariad gan y partner arall ychwaith.

Dywedodd David Gauke, “Fe fydd priodas bob amser yn un o’n sefydliadau mwyaf cysegredig ond pan ddaw perthynas i ben, ni all fod yn iawn i’r gyfraith greu neu gynyddu gwrthdaro rhwng cyplau sy’n ysgaru.

“Dyna pam y byddwn ni’n diddymu’r gofynion hynafol o honni bai neu ddangos tystiolaeth o wahanu, gan gwneud y broses yn llai dadleuol a helpu teuluoedd i edrych tua’r dyfodol.”

Ar hyn o bryd, oni bai bod modd profi bod perthynas odinebus, ymddygiad afresymol neu ymadawiad wedi digwydd, yr unig ffordd o sicrhau ysgariad heb gytundeb y partner arall yw byw ar wahân am bum mlynedd.

Y cynlluniau

Ymhlith y newidiadau sy’n cael eu cynnig mae:

– Gwneud tor-perthynas yr unig reswm dros ysgaru

– Diddymu’r angen i fyw ar wahân a/neu brofi ymddygiad drwg y partner arall

– Proses newydd o ran y llys all gael ei chychwyn gan y naill bartner neu’r llall

– Diddymu’r cyfle i’r partner arall wrthwynebu’r cais am ysgariad

Pwysau

Daw’r newidiadau arfaethedig yn dilyn achos Tini a Hugh Owens ym mis Gorffennaf.

Ceisiodd Tini ysgariad oddi wrth Hugh ar ôl bod yn briod am 40 o flynyddoedd.

Dywedodd hi wrth y Goruchaf Lys fod y briodas yn un “ddi-gariad” a’i fod e wedi ymddwyn yn afresymol, gan ddadlau ymhellach na ddylai’r llys ddisgwyl iddi aros yn briod.

Ond ar ôl iddo wrthod ei honiadau, penderfynodd y llys na fydden nhw’n rhoi’r hawl i Tini Owens gael ysgariad.