Mae ymladdwyr tân wedi bod yn gweithio trwy’r nos er mwyn ceisio cael y gorau ar dân mewn marchnad dan-do yn Dundee.

Dyma’r ail dân yn y ddinas o fewn 24 awr.

Pan oedd y fflamau ar eu gwaethaf, roedd mwy na 60 o ymladdwyr yn ceisio eu diffodd yn Hilltown Indoor Market toc cyn 6.15yh nos Fercher (Medi 12). Mae dwy injan dân yn dal yno.

Fe ddaeth y tân hwn lai na diwrnod ers tân mawr yn Academi Braeview, sydd wedi cael ei ddifrodi’n sylweddol.