Mae dau o bobol wedi marw, a phedwar arall wedi’u cludo i’r ysbyty, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori a sawl car ar draffordd yr M5.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle’r ddamwain ger cyffordd 24 yn Huntworth, Gwlad yr Haf, toc wedi 8.30yb heddiw (dydd Iau, Medi 13).

Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi cadarnhau fod dau o bobol wedi’u lladd.

Mae’r ffordd wedi’i chau i’r ddau gyfeiriad rhwng cyffyrdd 24 a 25, Taunton.