Mae gan lofrudd 41 oed, sydd wedi’i garcharu am oes am lofruddio mam i ddau, 171 o gollfarnau blaenorol dros gyfnod o 27 o flynyddoedd.

Mae Richard Bailey yn dechrau ar ddedfryd oes heddiw (dydd Mercher, Medi 12) ar ôl i lys ei gael yn euog o lofruddio Charlotte Teeling, dynes yr oedd wedi’i chyfarfod ar noson allan rai oriau ynghynt.

Mae rhan fwyaf o’i droseddau blaenorol yn ymwneud ag ymosod neu drais, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn erbyn menywod diniwed.

Cafodd ei garcharu yn 2000 am ymosod ar ei bartner ar y pryd a cheisio celu’r digwyddiad drwy ei tharo drwy glustog er mwyn osgoi gadael cleisiau.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ei garcharu am 54 mis am ladrata, ac unwaith eto yn 2006 am ffrwgwd ac ymosod ar ddynes yn ystod ffrae tros gyffuriau. Yr un flwyddyn, cafodd ei ddedfrydu i 42 mis dan glo am daro dynes ar lawr.

Yn 2016, cafodd ei garcharu am 32 mis am ladrata a byrgleriaeth. Cafodd ei ryddhau ar drwydded, ac yn y cyfnod hwnnw y llofruddiodd e Charlotte Teeling.

Llofruddiaeth Charlotte Teeling

Mae Richard Bailey wedi’i ddedfrydu i garchar am oes, ac fe fydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 29 o flynyddoedd dan glo.

Cafodd Charlotte Teeling ei thagu a’i mygu yn fflat Richard Bailey ar ôl iddi gael rhyw â fe ar ddiwedd noson allan yn Birmingham. Roedden nhw wedi cyfarfod mewn siop chwe awr ynghynt.

Roedd Richard Bailey wedi honni iddi farw’n ddamweiniol ar ôl gofyn iddo ei mygu am bleser rhywiol.

Ond cafwyd e’n euog o’i llofruddio ar ôl i’r rheithgor wrthod ei gredu.

Cafodd ei chorff ei adael yn ei fflat am fwy nag wythnos, ac fe ddefnyddiodd ei cherdyn banc i brynu bwyd ar ôl gosod lluniau pornograffig o gwmpas ei chorff.