Mae cadeirydd cwmni chwaraeon Sports Direct, sydd wedi cael ei feirniadu droeon am fod yn ‘wrth-Gymraeg’, wedi cyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu.

Mae Keith Hellawell wedi bod yn ei swydd ers naw mlynedd ond fe fydd yn ymddeol heddiw yn dilyn cyfarfod blynyddol y cwmni, ac yn cael ei olynu gan y cyfarwyddwr anweithredol David Daly.

Mae prif weithredwr y cwmni, Mike Ashley wedi diolch i Keith Hellawell am ei “gyfraniad arwyddocaol” dros y blynyddoedd.

Ac yntau’n gyn-brif gwnstabl Heddlu Gorllewin Swydd Efrog ac yn gyn-tsar cyffuriau llywodraeth Prydain, mae Keith Hellawell wedi cael ei feirniadu hefyd am amodau gwaith y gweithwyr yn warws y cwmni.

Mae wedi’i feirniadu ymhellach am lywodraethiant y cwmni. Y llynedd, pleidleisiodd 47% o fuddsoddwyr yn ei erbyn wrth iddo geisio blwyddyn arall wrth y llyw.

Mae Uno’r Undeb wedi croesawu ei ymadawiad, gan ddweud ei bod yn “hen bryd” iddo roi’r gorau iddi. Daw’r sylwadau ar ôl i ymgynghorwyr gynghori rhanddeiliaid i bleidleisio yn ei erbyn, gan ddadlau iddyn nhw golli hyder ynddo.

Simon Bentley

Fe fydd yr uwch gyfarwyddwr Simon Bentley hefyd yn ymddeol ar ôl 11 o flynyddoedd yn ei rôl.

Daw’r newyddion am y ddau wrth i Sports Direct ddarogan y byddan nhw’n cyrraedd eu rhagolygon ar gyfer y flwyddyn.

Mae disgwyl i’r cwmni dyfu 5-15%, ond dydy hynny ddim yn cynnwys y ffigwr o £90 miliwn am brynu House of Fraser.

Mae cyfrannau’r cwmni wedi codi 3.7% fore heddiw i 353.6c, ddiwrnod ar ôl iddyn nhw ostwng yn sgil achos yn yr Uchel Lys.

Ddydd Mawrth, cafodd y cwmni orchymyn i gyhoeddi nifer o adroddiadau mewn perthynas ag ymchwiliad ariannol i drafodion cwmni Grant Thornton. Mae Sports Direct yn bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniad.