Cafwyd athro cerdd yn euog o lofruddio ei ddarpar wraig heddiw ar ôl iddo ei thagu, ei churo a’i thrywanu cyn rhoi ei chorff mewn siwtces yn y garej.

Fe blediodd Andrew Lindo, 29, yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad ond roedd yn gwadu llofruddio Marie Stewart yn eu cartref yn Holmfirth, Gorllewin Swydd Efrog ar 18 Rhagfyr y llynedd.

Roedd y rheithgor yn Llys y Goron Bradford wedi gwrthod ei honiad ei fod wedi colli ei hunan-reolaeth yn dilyn ffrae lle roedd Lindo wedi ei chyhuddo hi o gam-drin eu merch ifanc.

Roedd teulu Miss Stewart yn eu dagrau ar ol i’r rheithgor ddwyn rheithfarn ar ol llai na awr.

Dywedodd y barnwr, Meistr Ustus Andrew Smith, y byddai Lindo yn cael ei ddedfrydu yfory.

Corff mewn siwtces

Clywodd y rheithgor fod Lindo wedi cyfaddef iddo ladd ei bartner, a mam i’w ddau blentyn, ond ei fod yn gwadu ei llofruddio.

Clywodd y llys fod Lindo wedi tagu Miss Stewart, ac yna wedi ei tharo gyda chadair cyn ei thrywannu 12 o weithiau. Roedd o wedyn wedi rhoi ei chorff mewn siwtces a’i gadw yng ngarej eu cartref.

Fe ddigwyddodd hyn i gyd tra bod ei fab a’i ferch ifanc yn y ty.

Am saith wythnos, fe lwyddodd Lindo i argyhoeddi teulu a ffrindiau Miss Stewart ei bod hi dal yn fyw, a’i bod wedi ei adael ac wedi symud dramor.

Ond pan ddechreuon nhw amau ei stori, cafodd yr heddlu eu galw. Daethon nhw o hyd i’w chorff ar 13 Chwefror.

Clywodd y llys bod Lindo wedi bod yn cael perthynas gyda nifer o ferched eraiill.