Fe fydd cwest yn dechrau yn ddiweddarach heddiw i farwolaethau’r pump o bobl gafodd eu lladd mewn ymosodiad brawychol ar Bont Westminster yn Llundain.

Bu farw pedwar aelod o’r cyhoedd ynghyd a’r plismon Keith Palmer ar 22 Mawrth y llynedd yn ystod ymosodiad a barodd dim ond 82 eiliad.

Yn ystod y cyfnod yna roedd Khalid Masood, 52, wedi gyrru ei gerbyd yn fwriadol at gerddwyr ar Bont Westminster gan ladd ymwelydd o America, Kurt Cochran, 54, Leslie Rhodes, 75, Aysha Frade, 44, a’r ymwelydd o Rwmania, Andreea Cristea, 31.

Roedd ei gerbyd wedi gwyro ar y palmant cyn taro rhwystrau ger Palas Westminster.

Ar ôl gadael ei gerbyd fe redodd Khalid Masood o amgylch y ffens a thrywannu Keith Palmer, 48, swyddog diarfog oedd ar ddyletswydd ar y pryd.

Cafodd Khalid Masood o Gaint ei saethu’n farw gan blismyn arfog yn fuan wedyn.

Cwest

Fe fydd y Prif Grwner Mark Lucraft QC yn dechrau cwest i farwolaethau’r pum dioddefwr yn yr Old Bailey heddiw (dydd Llun, 10 Medi).

Mae disgwyl i’r crwner edrych ar gefndir Khalid Masood a’r ffaith ei fod wedi ymddangos yn ymchwiliadau MI5 yn 2009 a 2010.

Fe fydd hefyd yn ystyried y trefniadau diogelwch o gwmpas Palas Westminster a faint o amddiffyniad oedd arfwisg Keith Palmer yn ystod y digwyddiad.

Mae disgwyl i’r gwrandawiadau barhau am hyd at bum wythnos a bydd cwest ar wahân ar gyfer Khalid Masood.