Mae Theresa May yn wynebu “rhwyg catastroffig” yn ei phlaid os ydy hi’n mynnu parhau gyda chynllun Chequers ar gyfer Brexit, mae cyn-weinidog wedi rhybuddio.

Yn ol Steve Baker, a ymddiswyddodd fel gweinidog Brexit, mae’r Prif Weinidog yn wynebu gwrthwynebiad chwyrn i’r cynllun gan aelodau yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol y mis hwn.

Dywedodd Steve Baker ei fod wedi gobeithio y byddai’r Torïaid yn unedig y tu ôl i’r opsiwn o Gynllun Masnach Rydd erbyn diwedd y gynhadledd.

Ond mae’n rhybuddio bod Theresa May yn wynebu “problem enfawr” yn y gynhadledd yn Birmingham oherwydd maint y gwrthwynebiad i gynllun Chequers.

Gyda dim ond 200 o ddyddiau i fynd cyn i Brexit ddod i rym, mae Steve Baker yn dweud y bydd y Prif Weinidog yn colli hygrededd gyda thrafodwyr Brexit os ydy hi’n bwrw ymlaen gyda chynllun Chequers a gafodd ei benderfynu ym mis Gorffennaf, heb gefnogaeth ei phlaid.

Mae o leiaf 80 o Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi dweud y byddan nhw’n pleidleisio yn erbyn y cynllun.

Mae Steve Baker yn pwysleisio nad yw’n galw am newid yn yr arweinyddiaeth a bod “amser yn brin i unrhyw un sy’n credu bod cystadleuaeth am yr arweinyddiaeth ac etholiad cyffredinol yn syniad da.”