Mae’r Blaid Lafur yn “sefydliadol hiliol”, meddai un o aelodau seneddol y blaid, Chuka Umunna wrth ymateb i’r helynt gwrth-Semitiaeth.

Dywedodd fod y cyfaddefiad yn un “poenus iawn” ond na fyddai’n diddymu ei aelodaeth o’r blaid am y byddai’n well ganddo “geisio dadlau a gweld newidiadau yn y sefydliad” na “gadael y maes”.

Dywedodd wrth raglen Sophy Ridge On Sunday ar Sky News fod yr honiad fod y blaid yn un hiliol “y tu hwnt i amheuaeth”.

Roedd yn ymateb i awgrym arweinydd y blaid y dylai dynnu ei sylwadau’n ôl ar ôl dweud y dylai Jeremy Corbyn “dynnu’r cŵn yn eu hôl” er mwyn atal aelodau i’r chwith o’r canol rhag gadael y blaid.

Ond mae cadeirydd y Blaid Lafur, Ian Lavery wedi dweud bod Chuka Umunna wedi ymddwyn yn “amharchus” a “sarhaus”.

‘Ci’

Ychwanegodd Ian Lavery: “Mae galw unrhyw un yn gi yn hollol eithriadol o warthus, a dylai Chuka Umunna o bawb wybod hynny.

“A gobeithio pan ddaw e ar eich sioe heddiw ei fod yn achub ar y cyfle i ymddiheuro ar unwaith wrth y bobol y mae e wedi’u sarhau.

“Dyma’r bobol sy’n cadw Chuka Umunna a fi fy hun ac aelodau seneddol yn ein swyddi.”

Ond wrth amddiffyn ei sylwadau, dywedodd Chuka Umunna ei fod yn defnyddio “trosiad, a ffordd o siarad”.