Mae cyn-Ysgrifennydd Tramor Prydain, Boris Johnson wedi cael ei feirniadu ar ôl dweud bod y Prif Weinidog, Theresa May wedi rhoi Prydain mewn “fest hunanladdiad” tros Brexit, ac wedi rhoi’r taniwr i Michel Barnier ym Mrwsel.

Daeth ei sylwadau mewn erthygl yn y Mail on Sunday, ac mae wedi’i feirniadu gan aelodau ei blaid ei hun.

Fe fu’n wythnos gythryblus i Boris Johnson, yn dilyn y cyhoeddiad ei fod e a’i wraig Marina Wheeler wedi gwahanu yn dilyn honiadau am ei fywyd preifat.

Ac mae lle i gredu mai ei fwriad wrth wneud y sylwadau am Theresa May yw ei phardduo cyn lansio ymgyrch i’w holynu fel arweinydd y blaid ac fel prif weinidog. Fe ymddiswyddodd o’r Cabinet yn sgil ei wrthwynebiad i gynlluniau Brexit Theresa May.

Dywedodd yn yr erthygl, “Rydym wedi ein hagor ein hunain i flacmêl gwleidyddol tragwyddol. Rydym wedi lapio fest hunanladdiad am gyfansoddiad Prydain – ac wedi rhoi’r taniwr i Michel Barnier.”

Ymateb i’r sylwadau

Mae nifer o wleidyddion – a chyn-swyddog y fyddin – wedi ymateb yn chwyrn i’w sylwadau.

Dywedodd Tom Tugendhat, cyn-swyddog y fyddin sydd bellach yn aelod seneddol, “Lladdodd hunanfomiwr nifer yn iard fy swyddfa yn Helmand. Dydy cymharu’r prif weinidog â hynny ddim yn ddoniol.”

Ychwanegodd y gweinidog yn y Swyddfa Dramor, Syr Alan Duncan fod ei sylwadau’n “ormod”, ac yn “un o’r eiliadau mwyaf ffiaidd yng ngwleidyddiaeth fodern Prydain”. Awgrymodd y byddai’r sylwadau’n “ddiwedd ar Boris Johnson”.

Dywedodd Zac Goldsmith fod Boris Johnson heb “egwyddorion” wrth wneud y sylwadau.