Cafodd teulu o dri ddihangfa wyrthiol yn un o orsafoedd tanddaearol Llundain neithiwr ar ôl i fam a phlentyn syrthio i’r cledrau wrth i drên ddod i mewn.

Dywed Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod y ddynes yn gwthio ei phlentyn mewn bygi ar hyd y platfform yng ngorsaf Baker Street ychydig cyn 10.15pm.

Roedd yn ymddangos nad oedd hi wedi sylweddoli pa mor agos oedd hi i’r ymyl, a’i bod wedi gwthio olwynion y bygi dros yr ymyl.

Fe wnaeth hi, y bygi a’r plentyn ddisgyn ar y cledrau, a neidiodd y tad i lawr i’w helpu.

“Pan welson nhw drên yn dod, roedd y tri yn hynod o ffodus i allu symud i’r pant o dan y cledrau ac aeth y trên drostyn nhw’n ddiogel,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Yn rhyfeddol, chafodd neb ohonyn nhw eu hanafu’n ddifrifol, ond aed â nhw i’r ysbyty er mwyn sicrhau eu bod nhw’n iawn.”