Mae un o wleidyddion amlyca’ gwledydd Prydain a’i wraig wedi cyhoeddi eu bod nhw am ysgaru.

Bu Boris Johnson a Marina Wheeler yn briod am 25 mlynedd, ond fe ddatgelodd papur newydd The Sun bod y ddau yn byw ar wahân.

Wedi cyhoeddi’r stori honno fe ddatgelodd y ddau ar y cyd eu bod nhw wedi gwahanu “sawl mis yn ôl”.

Ond mae’r Aelod Seneddol a’r gyfreithwraig, ill dau yn 54 oed, yn mynnu eu bod dal yn ffrindiau “ac y byddwn yn parhau i gefnogi ein pedwar o blant yn y blynyddoedd i ddod”.

Mae Boris Johnson yn gyn-Faer Llundain, yn gyn-Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth Prydain ac yn wleidydd sy’n hollti barn.

Mae Brexitwyr caled fel Nigel Farage a Jacob Rees-Mogg am iddo olynu Theresa May yn Brif Weinidog Prydain, ond mae Torïaid fwy cymedrol wedi taflu dŵr oer am ben y syniad.