Mae teithwyr yn Essex yn dathlu ar ôl penderfyniad munud-olaf a fydd yn caniatau iddyn nhw aros ar y safle tan ddydd Gwener – ond mae nhw wedi rhybuddio nad ydy’r frwydr ar ben.

Roedd disgwyl i’r teithwyr gael eu gorfodi i adael y safle ar Dale Farm yn Basildon ddoe, ond ar ol clywed y newyddion eu bod yn cael aros am y tro, fe fu’r teithwyr a’u cefnogwyr yn dathlu neithiwr.

Dywedodd Richard Sheridan, o’r Cyngor Teithwyr: “Doedd neb wedi disgwyl hyn. Naethon ni gadw’r peth yn dawel ac mae’r canlyniad yn wych.”

‘Hwb mawr’

Dywedodd un o’r cefnogwyr, Jake Fulton: “Mae hyn yn hwb mawr ond dydy’r frwydr ddim ar ben. Fe fyddan ni’n parhau i aros yma ac rydan ni’n annog pobl i aros. Fe fyddan ni’n croesawu rhagor o gefnogwyr i ymuno â ni. Rydan ni’n teimlo ein bod ni ar fin ennill buddugoliaeth hanesyddol dros hawliau teithwyr.”

Dywedodd Aelod Seneddol Dwyrain Lloegr Richard Howitt: “I’r rhai hynny sydd wedi body n dadlau bod hyn yn ymwneud â rheolau cyfreithiol, mae’n bwysig sylweddoli bod y llys wedi dyfarnu mai Cyngor Basildon sydd efallai wedi bod yn ymddwyn yn anghyfreithlon.”

Dywedodd nad oedd hi’n rhy hwyr i ddod i gytundeb.

Roedd tua 200 o brotestwyr wedi cloi eu hunain tu fewn i’r fferm ddydd Llun wrth y Gyngor Basildon baratoi i anfon beiliaid i orfodi’r teithwyr i symud o’r safle.

Ond fe benderfynodd yr Uchel Lys yn Llundain bod angen gwrandawiad arall ddydd Gwener ac fe ohiriwyd y cynlluniau i symud y teithwyr.