Mae prif weithredwr y cwmni bancio, TSB, wedi ymddiswyddo yn dilyn cyfres o broblemau technolegol yn gynharach eleni.

Mae Paul Pester wedi bod yn y swydd ers saith mlynedd, ond mae’n cyfaddef bod y misoedd diwetha’ wedi bod yn “heriol” ar ôl i hyd at 1.9 miliwn o gwsmeriaid sy’n bancio ar-lein fethu â chael mynediad i’w cyfrifon.

Bydd David Madding yn camu i swydd cadeirydd y cwmni er mwyn chwilio am brif weithredwr newydd.

Penodi bos newydd

“Er nad oes yna ddim mwy i’w gyflawni er mwyn sicrhau sefydlogrwydd i’n cwsmeriaid, mae systemau Technoleg Gwybodaeth a gwasanaethau’r banc wedi gwella tipyn ers y problemau technolegol,” meddai David Madding.

“Mae Paul a’r bwrdd wedi cytuno felly ei fod yn adeg iawn i benodi prif weithredwr newydd ar gyfer TSB.”