Bydd corff rheoli’r Blaid Lafur yn penderfynu heddiw pa un a ddylen nhw fabwysiadu’r diffiniad rhyngwladol o wrth-Semitiaeth ai peidio.

Bydd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol (NEC) yn ystyried os oedden nhw wedi gwneud y penderfyniad iawn trwy hepgor rhai enghreifftiau o wrth-Semitiaeth, sy’n cael ei nodi yn niffiniad Cynghrair Genedlaethol Cofio’r Holocost, o god ymddygiad y blaid.

Ond mae rhwygiadau pellach wedi dod i’r wyneb o fewn y Blaid Lafur ar ôl i Peter Willsman gael ei ailethol i’r NEC.

Mae nifer yn anhapus â hyn oherwydd ei fod yn y gorffennol wedi galw rhai aelodau o’r gymuned Iddewig yn “benboethiaid Trumpaidd”, ac mae wedi’u cyhuddo o greu’r cyhuddiadau o wrth-Semitiaeth yn erbyn y Blaid Lafur eu hunain.

Mabwysiadu’n llawn

Mae un o brif gefnogwyr Jeremy Corbyn o fewn cabinet yr wrthblaid, John McDonnell, wedi galw ar y Blaid Lafur i fabwysiadu diffiniad rhyngwladol yn llawn.

Mae’n cydnabod bod angen i’r blaid weithredu’n gyflym mewn ymdrech i ddatrys y ffrae sydd wedi datblygu dros gyfnod yr haf, gan greu rhwyg rhwng Llafurwyr a’r gymuned Iddewig.

Ond mae’r rheiny sydd yn erbyn y cam yn dweud y bydd mabwysiadu’r diffiniad yn eu hatal rhag beirniadu polisïau Llywodraeth Israel.

Mae disgwyl protestiadau y tu allan i bencadlys y Blaid Lafur yn Llundain yn ystod cyfarfod y NEC heddiw.