Milly Dowler
Mae disgwyl i Rupert Murdoch roi £1 miliwn o’i boced ei hun  i elusen fel rhan o gytundeb yn ymwneud â hacio ffôn y ferch ysgol Milly Dowler a lofruddiwyd yn 2002.

Disgwylir i deulu Milly Dowler dderbyn tua £2m mewn cytundeb ar wahan gan News International, cyhoeddwyr y News of the World, sydd bellach wedi dod i ben.

Mae News International wedi cyhoeddi eu bod mewn trafodaethau gyda pherthnasau’r ferch 13 oed, a gafodd ei chipio a’i lladd gan Levi Bellfield.

Sefyllfa ‘eithriadol’

Mae’n debyg bod y cwmni wedi rhoi £20miliwn o’r neilltu ar gyfer achosion eraill o hacio ffonau pobl ond dywedodd llefarydd bod y taliad i deullu Milly Dowler yn adlewyrchu’r sefyllfa “eithriadol” yn eu hachos nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran News International nad oeddan nhw wedi dod i gytundeb terfynol ond eu body n gobeithio dod â’r trafodaethau i ben cyn gynted a phosib.

Dyw hi ddim yn glir eto pa elusen, neu elusennau fydd yn elwa o’r cytundeb.

Ymddiheuriad

Roedd honiadau bod ymchwiliwr preifat yn gweithio i’r News of the World wedi hacio ffôn Milly ar ôl iddi ddiflannu yn 2002. Fe arweiniodd hyn at nifer o honiadau a arweiniodd at gau y News of the World. Roedd negeseuon ar ffôn Milly wedi cael eu dileu ac fe roddodd hyn obaith i’w theulu ei bod yn dal yn fyw. Mae Mr Murdoch wedi ymddiheuro yn bersonol i rieni Milly, Sally a bob a’i chwaer Gemma ar ôl cwrdd â nhw yn Llundain ym mis Gorffennaf.

Mae’r News of the World eisoes wedi dod i gytundeb gyda nifer o bobl eraill fel yr actores Sienna Miller, a gafodd £100,000, a’r sylwebydd pel-droedd Andy Gray a dderbyniodd £20,000.