Mae tân dros nos wedi difrodi un o adeiladau “eiconig” Lerpwl.

Mae ’na ofnau bod to a llawr uchaf adain o adeilad Littlewoods Pools wedi cael eu difrodi’n llwyr yn y tân a ddechreuodd tua 8yh nos Sul (2 Medi).

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Glannau Mersi bod diffoddwyr wedi brwydro tân “sylweddol” ond credir eu bod nhw wedi llwyddo i atal strwythur yr adeilad Art Deco o’r 1930au rhag cael ei ddifrodi’n llwyr.

Mae cyn-adeilad Littlewoods Pools wedi bod yn wag ers 2003, er bod cynllun gwerth £50 miliwn i drawsnewid y safle wedi cael ei gyhoeddi’n ddiweddar.

Un o’r cynlluniau oedd adeiladu stiwdios ffilm a theledu ar y safle, a allai fod wedi dod a channoedd o swyddi i’r ardal.

Dywedodd Maer Lerpwl Joe Anderson bod y tân yn “dorcalonnus”.