Mae Boris Johnson wedi beirniadu cynlluniau Brexit Theresa May yn chwyrn gan ddweud ei fod yn strategaeth a fyddai’n rhoi buddugoliaeth i’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn unig.

Mae beirniadaeth y cyn-Ysgrifennydd Tramor yn cael ei weld gan nifer yn San Steffan fel ymdrech i ddisodli’r Prif Weinidog.

Mewn erthygl yn y Daily Telegraph, dywedodd bod Theresa May wedi mynd i’r trafodaethau yn “chwifio fflag wen” a’r canlyniad fyddai buddugoliaeth i’r UE.

Fe gyhuddodd Boris Johnson “rai aelodau” o’r Llywodraeth o ddefnyddio sefyllfa’r ffin yn Iwerddon i geisio “atal Brexit go iawn” a chadw Prydain allan o’r UE.

Ychwanegodd mai sgandal Brexit oedd “nid ein bod ni wedi methu, ond heb hyd yn oed trio.”

Daw ei feirniadaeth wrth i Theresa May wynebu gwrthwynebiad cynyddol ymhlith Ceidwadwyr i’w strategaeth Brexit, a gafodd ei benderfynu yn Chequers, ac a oedd wedi arwain at ymddiswyddiad Boris Johnson.

Fe fydd y Senedd yn dychwelyd wedi gwyliau’r haf ddydd Mawrth ac mae’r Prif Weinidog yn wynebu ymdrech gan Geidwadwyr, sydd yn frwd o blaid Brexit, i roi’r gorau i’w hagenda.