Mae llanc 17 oed wedi cael ataliad ar ei galon ar ôl i Heddlu West Midlands ei saethu â gwn Taser.

Mae e mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty yn Coventry.

Cafodd pedwar o lanciau eraill rhwng 13 ac 17 oed eu harestio gan yr heddlu yn dilyn helynt yn yr ardal toc wedi 9.30 nos Sadwrn.

Cafodd dau blismon anafiadau, ac fe gafodd car yr heddlu ei ddifrodi.

Mae’r achos bellach yn nwylo Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.