Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi cael ei feirniadu unwaith eto a’i gyhuddo o fod yn wrth-Semitaidd.
Yn ôl y Fonesig Margaret Hodge, mae yna “gasineb at Iddewon” ymhlith penaethiaid y blaid.
Dywedodd hi wrth y Sunday Times mai’r “cyfan allan nhw feddwl amdano yw eu Plaid Lafur fewnol a’u casineb at Iddewon”.
Wrth ladd yn uniongyrchol ar yr arweinydd, ychwanegodd, “Mae Jeremy wedi caniatáu i wrth-Semitiaeth a hiliaeth fynd yn rhemp.”
Yn ôl y papur newydd, mae disgwyl i Lafur gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn yr arweinydd, ddwy flynedd yn unig ers y bleidlais ddiwethaf – fe enillodd e honno o 172 i 40.
Wrth siarad â rhaglen Andrew Marr y BBC, ychwanegodd y prif rabbi, yr Arglwydd Sacks, “Mae Iddewon wedi bod ym Mhrydain ers 1656. Dw i ddim yn gwybod am achlysur arall yn y 362 o flynyddoedd hyn pan fo Iddewon – mwyafrif yn ein cymuned – wedi gofyn ‘a yw’r wlad hon yn ddiogel i ni gael magu ein plant’.
‘Rhwyg’
Yn y cyfamser, mae canghellor y Blaid Lafur, John McDonnell wedi dweud ei fod yn gofidio y gallai’r helynt achosi rhwyg o fewn y blaid.
Daw ei sylwadau ddyddiau’n unig ar ôl i chwip y blaid, Frank Field ymddiswyddo ar ôl cyhuddo penaethiaid y blaid o greu “cadarnle ar gyfer gwrth-Semitiaeth”.
Dywedodd John McDonnell fod y mater wedi arwain nifer o bobol i ystyried gadael y blaid.
“Dw i’n drist oherwydd hynny,” meddai, “Dw i’n drist iawn ac wedi fy siomi’n fawr.”
Dywedodd fod modd datrys y sefyllfa o fewn y blaid, ac fe wfftiodd yr awgrym eu bod yn “faterion sylfaenol a fyddai’n arwain at rwyg”.
Galwodd am ddatrys y sefyllfa “mor fuan â phosib”.