Mae llanc 16 oed mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu yn ne-orllewin Llundain.

Cafodd ei anafu mewn digwyddiad yn ardal Wandsworth yn oriau man fore heddiw, a chafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 12.45yb.

Roedd e mewn cyflwr difrifol pan gafodd ei gludo i’r ysbyty.

Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.