Mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr wedi dweud y byddan nhw’n protestio yn erbyn ymweliad Arlywydd yr Unol Daleithiau â Gweriniaeth Iwerddon.

Daeth cadarnhad ddydd Gwener y bydd yn ymweld â’r wlad yn ystod taith Ewropeaidd, lle bydd yn mynd i ddigwyddiad ym Mharis i nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ymhlith y rhai a ddywedodd o fewn awr ar ôl y cyhoeddiad y byddan nhw’n cynnal protest mae Plaid Lafur Iwerddon a’r Blaid Werdd.

Mewn datganiad, mae arweinydd y Blaid Werdd yn Iwerddon, Eamon Ryan wedi galw ar Wyddelod i “ddangos eu ffieidd-dra” ac i “wrthod polisïau gweinyddiaeth Trump drwy droi allan”.

Dywedodd fod llywodraeth yr Unol Daleithiau’n “dinistrio ein planed, yn ansefydlogi trefn ryngwladol ac yn cyrraedd dyfnderoedd gwleidyddol newydd drwy apelio at hiliaeth, gwreig-gasineb, senoffobia a chasineb”, ac nad yw’r gwerthoedd hynny’n “adlewyrchu gwerthoedd pobol Iwerddon”.

Beirniadu’r Taoiseach a’i lywodraeth

Mae un o gynghorwyr Plaid y Gweithwyr, Ted Tynan wedi cyhuddo’r Taoiseach Leo Varadkar a’r Gweinidog Materion Tramor, Simon Coveney o weithredu’n groes i gredoau’r rhan fwyaf o Wyddelod drwy wahodd Donald Trump i’r wlad.

Ond cafodd y gwahoddiad ei roi gan y Taoiseach blaenorol, Enda Kenny ar Ddydd San Padrig yn ystod ei ymweliad swyddogol olaf â’r Unol Daleithiau.

Dydy manylion y daith ddim wedi cael eu cadarnhau hyd yn hyn, ond mae disgwyl i’r Arlywydd Donald Trump dreulio deuddydd yn Iwerddon.