Mae un o weinidogion Llywodraeth Prydain wedi teithio i’r Dwyrain Canol i drafod achos Nazanin Zaghari-Ratcliffe, dynes o Lundain sydd wedi’i charcharu yn Iran.

Fe fydd Alistair Burt, Gweinidog y Dwyrain Canol, yn cyfarfod â Dirprwy Weinidog Materion Tramor Iran, Abbas Araghchi yn Tehran.

Cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe ei charcharu am bum mlynedd yn 2016 am ysbïo ond mae’n gwadu ei bod hi wedi gwneud unrhyw beth o’i le a’i bod hi ar wyliau teuluol gyda’i merch fach ac yn ymweld â’i theulu pan gafodd hi ei harestio.

Mae’r Gweinidog Tramor Jeremy Hunt weid addo gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau ei bod hi’n cael mynd yn rhydd ar ôl iddi gael ei tharo’n wael yn y ddalfa yr wythnos hon.

Datrysiad

Cyn ei ymweliad ag Iran, dywedodd Alistair Burt, “Byddaf yn defnyddio achlysur fy ymweliad i wthio am ddatrysiad yr ydym oll am ei gael yn achos pobol o wledydd Prydain sydd â chenedligrwydd dwbwl yn Iran.”

Dywedodd y byddai’r trafodaethau’n “foment hanfodol” ym mherthynas Prydain ag Iran, wrth i’r pryderon am raglen niwclear y wlad barhau.

Dyma’r tro cyntaf i un o weinidogion Prydain ymweld ag Iran ers i’r Unol Daleithiau dynnu’n ôl o gytundeb niwclear ag Iran ym mis Mai.