Fydd unrhyw un sy’n osgoi talu trethi ddim yn derbyn anrhydeddau gan Frenhines Loegr, wrth i’r awdurdodau geisio atal yr hyn maen nhw’n ei alw’n “ymddygiad drwg”.

Mae Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi rhoi gwybod i’r Swyddfa Gabinet am unigolion sydd ynghlwm wrth gynlluniau trethi amheus.

Yn ôl papur newydd y Times, mae’r adran yn mynnu nad yw’r fath ymddygiad “yn deilwng o dderbyn anrhydeddau”, ac maen nhw’n asesu pob achos gan benderfynu a yw’r rhai sydd wedi’u hamau wedi ymddwyn ar lefel risg isel, canolig neu uchel.

Yn ôl y canllawiau, byddai rhywun yn y categori canolig wedi bod ynghlwm wrth un neu ragor o gynlluniau osgoi talu trethi. Mae’r lefel uchaf yn cynnwys y rhai sy’n arallgyfeirio trethi i gynlluniau tramor.

Gall unrhyw un sydd wedi osgoi talu trethi dderbyn anrhydedd ar ôl tair blynedd o ddangos bod eu hymddygiad wedi gwella.

‘Polisi hirdymor’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain, “Caiff anrhydeddau eu rhoi i wobrwyo gwasanaeth rhagorol mewn maes penodol a chaiff pob enwebiad ei asesu’n drylwyr.

“Fel mater o bolisi hirdymor, er mwyn gwarchod gonestrwydd y drefn, mae adrannau’r Llywodraeth sydd â diddordeb arbennig mewn enwebiad penodol – gan gynnwys Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi – yn derbyn gwahoddiad i fynegi eu barn yn ystod y broses hon.”