Cafodd llongwr a lofruddiodd swyddog ar fwrdd llong danfor niwclear ei garcharu am 25 mlynedd heddiw.

Roedd Ryan Samuel Donovan, 23, wedi cyfaddef iddo lofruddio’r is-gomander Ian Molyneux, 36. Cafodd y tad i bedwar o blant ei saethu’n farw gan Donovan tra roedd yr HMS Astute wedi ei docio yn Southampton ar 8 Ebrill.

Roedd Donovan wedi tanio’r gwn chwe gwaith yn y stafell reoli ar y llong danfor gan anelu at bedwar o swyddogion eraill a chan ladd Ian Molyneux.

Wrth ymddangos yn Llys y Goron Caer-wynt, roedd Donovan hefyd wedi cyfaddef iddo geisio llofruddio yr is-swyddog Christopher Brown, 36, prif is-swyddog David McCoy, 37 a’r is-gomander Christopher Hodge, 45, tra roedden nhw ar ymweliad a Southampton.

‘Gwyrth’

Dywedodd Meistr Ustus Field ei bod yn “wyrth” nad oedd Donovan wedi lladd y ddau is-swyddog, fel yr oedd wedi bwriadu gwneud cyn i’r is-gomander Molyneux ddod i’r stafell reoli i weld beth oedd yn digwydd.

Dywedodd yr erlynydd Nigel Lickley QC y gallai nifer y rhai gafodd eu ladd fod wedi bod llawer yn uwch onibai am ddewrder arweinydd cyngor Southampton Royston Smith a’r prif weithredwr Alistair Neill oedd wedi llwyddo i atal Donovan.

Clywodd y llys bod  Donovan, o Hillside Road, Dartford, yng Nghaint wedi meddwi y noson gynt cyn iddo ddechrau ei ddyletswyddau fel gwarchodwr y bore wedyn.

Clywodd y llys bod Donovan wedi cymryd cyfrifoldeb am yr hyn ddigwyddodd gan ddweud nad oedd y Llynges Frenhinol nac unrhyw sefydliad arall ar fai am yr hyn ddigwyddodd.