Mae Whitbread wedi dod i gytundeb i werthu cadwyn Costa Coffee i Coca-Cola am £3.9 biliwn.

Dywed y grŵp y bydd gwerthu Costa yn “newyddion da i gyfranwyr” ac y bydd swm sylweddol o’r elw yn cael ei roi iddyn nhw.

Fe fydd yr elw o’r gwerthiant hefyd yn cael ei ddefnyddio i leihau dyledion y grŵp a hybu’r gronfa bensiwn.

Dywed Whitbread y bydd gwerthu’r cwmni coffi yn caniatáu’r grŵp i ganolbwyntio ar ei fusnes gwestyau Premier Inn.

Roedd Whitbread wedi prynu Costa yn 1995 am £19 miliwn pan oedd 39 o siopau. Bellach mae gan y cwmni 2,400 o siopau ac mae bwriad i ehangu dramor.