Fe fydd un o ddwy blaid Llywodraeth Prydain yn ymgyrchu tros wahardd lluniau o ferched noeth mewn papurau newydd.

Roedd yna gefnogaeth unfrydol yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol i gynnig yn dweud y dylai papurau ufuddhau i’r un safonau â sianeli teledu.

Mae yna reolau’n atal y rheiny rhag dangos deunydd rhy rywiol yn gynnar yn y nos ac fe ddylai’r un math o reolau fod yn achos papurau, meddai’r cyn AS Evan Harris.

Roedd yn cyhuddo papurau fel y Sun o fod yn rhagrithiol trwy honni eu bod yn bapurau teuluol ac eto’n dangos merched mewn ffordd rywiol ar Dudalen 3.

Os oedden nhw ar gael, meddai, fe ddylen nhw fod ar silffoedd uchel y tu hwnt i gyrraedd plant.