Mae bron i chwarter o ferched 14 oed yn hunan-niweidio, yn ôl adroddiad gan Gymdeithas y Plant.

Yn sgil arolwg o 11,000 o blant, mae’r elusen wedi darganfod bod y broblem yn waeth ymhlith merched nag ymhlith bechgyn – gyda dwyaith yn fwy o ferched yn hunan-niweidio.

Ac mae’n debyg bod y broblem ar ei gwaetha’ ymhlith plant sy’n hoyw, lesbiaidd neu’n ddeurywiol – dywedodd 46% o’r grŵp yma eu bod wedi hunan-niweidio.

Rhesymau tros anhapusrwydd

Yn ôl Adroddiad Plentyndod Hapus mae stereoteipio rhywiol hen-ffasiwn yn un rheswm tros anhapusrwydd ymhlith pobol ifanc.

Mae’r pwysau ar i bobol ifanc gydymffurfio â disgwyliadau cymdeithas hefyd yn gwneud drwg, meddai.

Ac mae’n dweud bod “sylwadau diddiwedd am olwg pobol ifanc yn niweidiol i les merched.

“Testun gofid”

“Mae’r ffaith bod cymaint o blant yn hunan-niweidio oherwydd eu bod yn anhapus, yn destun gofid,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas y Plant, Matthew Reed.

“Mae llawer o blant, yn enwedig merched, yn pryderu’n fawr am y ffordd maen nhw’n edrych. Ond, mae’r adroddiad yma yn dangos bod ffactorau eraill – teimladau ynglŷn â’u rhywioldeb a rhyw, er enghraifft – yn cyfrannu at eu hanhapusrwydd.”

Ystadegau

  • Dywedodd un o bob chwe phlentyn eu bod wedi hunan-niweidio pan oedden nhw’n 14 blwydd oed
  • Dywedodd 22% o ferched eu bod wedi hunan-niweidio yn ystod y flwyddyn cyn yr arolwg
  • Dywedodd 9% o fechgyn eu bod wedi hunan-niweidio yn ystod y flwyddyn cyn yr arolwg.