Bydd cyfres o ralïau yn cael eu cynnal yng Ngogledd Iwerddon ddydd Mawrth (Awst 28), fel protest yn erbyn y methiant parhaus i ffurfio llywodraeth yn Stormont.

Bellach mae Gogledd Iwerddon wedi treulio dros 500 o ddiwrnodau heb lywodraeth, ac wedi torri’r record byd am y cyfnod hiraf dan y fath amodau.

Ac fel protest yn erbyn hyn, mi fydd digwyddiadau #wedeservebetter yn cael eu cynnal ledled y wlad i “alw ar wleidyddion i fynd yn ôl i weithio”.

Mae llefarydd ar ran Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Karen Bradley, wedi ymateb i’r gwrthdystio trwy fynnu bod adfer y Llywodraeth yn “flaenoriaeth”.

“Mae’r Ysgrifennydd yn hollol ymwybodol o’r rhwystredigaeth ddofn mae pobol Gogledd Iwerddon yn ei hwynebu,” meddai, “ac mae’n ymwybodol o’r angen dybryd i ddelio â’r anghydfod.

“Dydy hi ddim yn credu y dylem adael i’r sefyllfa sydd ohoni barhau, ac mae’n ystyried opsiynau i sicrhau llywodraethu da yng Ngogledd Iwerddon.”

Cefndir

Dan reolau Stormont mae rôl Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, mewn gwirionedd, yn cael ei rhannu rhwng cenedlaetholwyr ac unoliaethwyr.

Wedi dros ddegawd o gyfaddawdu, chwalodd y drefn yma ar Ionawr 2017 pan ymddiswyddodd, Martin McGuinness, y diweddar ddirprwy Prif Weinidog o  Sinn Fein.

Er bod trafodaethau wedi cael eu cynnal ers misoedd i adfer y drefn, mae’r anghydfod yn parhau ac i ryw raddau wedi dyfnhau – mae’r iaith Wyddeleg bellach wrth wraidd y gynnen.

Record?

Gwlad Belg oedd deiliad y record, ac mi brofodd y wlad 541 o ddyddiau heb Lywodraeth o gwbl yn dilyn ymddiswyddiad Prif Weinidog, Yves Leterme.

Trechodd Gogledd Iwerddon y record honno ar ddydd Gwener (Awst 24), ond yn ffodus iddyn nhw ni fydd y Guinness Book of World Records yn ei gofnodi gan mai llywodraeth ddatganoledig yw Stormont.