Byddai cannoedd o filoedd o fodurwyr ar eu colled pe bai math newydd o betrol yn cael ei gyflwyno mewn gorsafoedd ledled y Deyrnas Unedig.

Dyna yw casgliad Sefydliad yr RAC, corff sydd wedi ymchwilio i’r posibiliad o gyflwyno petrol ‘E10’ mewn gorsafoedd petrol yng ngwledydd Prydain.

Yn ôl Sefydliad yr RAC, mae’r mwyafrif o gerbydau sy’n cael eu defnyddio heddiw yn medru defnyddio E10, ond yn 2020 bydd 634,309 o geir methu â’i ddefnyddio.

“Mae’r dadansoddiad yma yn dangos na fydd modd i gannoedd o filoedd o geir ddefnyddio’r tanwydd yma,” meddai Cyfarwyddwr Sefydliad yr RAC, Steve Gooding.

“Ond mae yna newyddion da. Bydd mwyafrif o geir yn medru defnyddio E10, ac mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Chris Grayling, wedi cydnabod bod angen amddiffyn perchnogion hen geir sydd methu defnyddio E10.”

E10

Bioethanol – math o danwydd adnewyddadwy – yw hyd at 5% o betrol arferol, ond mewn petrol ‘E10’ mae’r ganran yn 10%.

Mae’r petrol yma eisoes ar gael ledled yr Unol Daleithiau ac Awstralia, a bellach mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried annog darparwyr i’w gyflenwi.