Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi cyrraedd Cape Town ar gychwyn ymweliad â De Affrica, Kenya a Nigeria.

Prif ddiben ei thaith yw hyrwyddo masnach rhwng Prydain a gwledydd Affrica, yn enwedig yn sgil unrhyw golledion a allai ddigwydd o ganlyniad i Brexit.

Ar hyn o bryd, mae cyfanswm allforion Prydain i holl wledydd Affrica yn werth £17.6 biliwn, sy’n cyfateb i 2.9% o’i holl allforion.

Mae hyn yn cymharu â gwerth £274 biliwn o allforion i’r Undeb Ewropeaidd. Mae gwerth allforion Prydain i’r Swistir yn unig – £19 bilwn – yn fwy nag i holl gyfandir Affrica.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gadarnhau y bydd Prydain yn parhau i gyfrannu 0.7% o gyfanswm ei hincwm at gymorth rhyngwladol, ond y bydd yr arian hwnnw’n cael ei dargedu i hyrwyddo masnach â’r gwledydd fydd yn ei dderbyn.

“Dw i’n ddiedifar ynglŷn â’r angen i sicrhau bod ein rhaglen gymorth yn gweithio i Brydain,” meddai.

“Felly, yn ogystal ag ymladd tlodi, dw i’n ymrwymo y bydd ein gwario ar ddatblygu rhyngwladol yn mynd i’r afael â heriau rhyngwladol ac yn cefnogi’n buddiannau cenedlaethol ein hunain.”