Mae economegwyr yn rhybuddio bod y cyfuniad o aeaf rhewllyd a haf crasboeth am arwain at gynnydd o 5% o leiaf mewn prisiau bwyd eleni.

Dywed y grŵp ymchwil, y Centre for Economics and Business Research (CEBR) fod y diwydiant cynhyrchu bwyd, yn enwedig ffermydd, wedi cael ei daro’n arbennig o ddrwg gan eithafion tywydd.

Yn sgil cynnydd mewn costau a lleihad mewn cynnyrch, cododd pris gwenith ar gyfer bara 20%, mefus 28%, moron 41% a letys 61% rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf eleni.

Mae pryder penodol am wenith, gyda llawer ohono’n cael ei fewnforio o’r cyfandir, lle mae disgwyl i’r cynhaeaf fod 5% yn is eleni.

Cynnyrch llaeth a chig

Mae cynnyrch llaeth hefyd yn dioddef, gyda lleihad mewn cynnyrch am 11 wythnos yn olynol yn sgil diffyg tyfiant glaswellt, gyda phrisiau giat fferm am fenyn yn codi bron i chwarter ers mis Mawrth.

Fe wnaeth y gwres effeithio ar ffrwythlondeb moch hefyd, gan arwain at gynnydd o 8% ym mhrisiau moch bach.

Yn ôl y CEBR: “Mae disgwyl i bris cig coch ostwng ychydig yn y tymor byr. Mae hyn oherwydd bod ffermwyr yn ceisio gwerthu eu da byw yn gynharach nag arfer i leihau’r baich ar dir pori.

“Eto i gyd, yn yr hirdymor, mae disgwyl i’r prisiau godi wrth i’r cynhaeaf prin effeithio ar y graddau y mae bwyd anifeiliaid ar gael.”