Mae’r gyfran o bobl sy’n gadael Llundain am ganolbarth neu ogledd Lloegr wedi treblu dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Yn ôl adroddiad gan y cwmni Hamptons International, roedd 21% o’r rhai a adawodd Lundain yn ystod chwe mis cyntaf eleni wedi symud i ranbarthau gogleddol o Loegr, o gymharu â 6% yn hanner cyntaf 2008.

Mae’r gyfran a symudodd i Gymru neu’r Alban gryn dipyn yn llai – 1% yr un i’r ddwy wlad.

Eto i gyd, mae’r pris o £240,000 a dalodd y bobl hyn ar gyfartaledd am dŷ yng Nghymru yn uwch nag yn unlle arall ym Mhrydain y tu allan i dde Lloegr.

Mae’r pris yn cymharu â £575,000 yn ne-ddwyrain Lloegr, £134,000 yn yr Alban a £132,000 yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.

Er bod y mwyafrif o’r bobl a adawodd Lundain wedi symud i dde-ddwyrain a dwyrain Lloegr, mae’r gyfran yn lleihau oherwydd y prisiau tai uchel yno.

“Mae mwy o Lundeinwyr yn gorfod symud o’r brifddinas i fforddio cartref newydd,” meddai Aneisha Beveridge, dadansoddwr ymchwil gyda Hamptons International. “I lawer, mae hyn yn golygu symud ymhellach i’r gogledd.”