Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Vince Cable wedi wfftio adroddiadau y bydd yn cyhoeddi fis nesaf ei fod yn camu o’r neilltu.

Mae cryn ddyfalu y bydd yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad yn ystod araith fis nesaf, ac yntau’n olynydd i Tim Farron oedd wedi ymddiswyddo ar ôl yr etholiad cyffredinol y llynedd.

Fe fydd Syr Vince Cable yn traddodi araith ar Fedi 7, wythnos cyn cynhadledd flynyddol ei blaid yn Brighton.

Bydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal yn 2022, ac mae’r Sunday Times a’r Business Insider ill dau yn dweud y bydd yn gadael ei swydd cyn hynny. Maen nhw hefyd yn dweud y bydd yn cyhoeddi cynlluniau i alluogi aelod nad yw’n aelod seneddol i fod yn arweinydd y blaid.

Wfftio

Ond dywedodd llefarydd wrth Press Association nad yw Syr Vince Cable yn bwriadu ymddiswyddo.

Fe gadarnhaodd y llefarydd fod galluogi rhywun nad yw’n aelod o’r blaid i fod yn arweinydd yn “opsiwn”.